Monday 13 October 2014

Helen Mary Jones

Helen Mary Jones

Helen a finnau yn Llanelli.
Hoffwn i longyfarch Helen wrth iddi gael ei hethol fel ymgeisydd Cynulliad y Blaid ar gyfer ein hetholaeth.

Peth anodd ydy gwybod beth i’w hysgrifennu am ffigwr mor adnabyddus ac uchel ei pharch. 

Wrth ganfasio o ddrws i ddrws mae pobl yn holi am Helen ac yn son amdani fel AC o'r safon uchaf. Mae Helen wastad wedi rhoi pobl yn gyntaf ac mae ei pharodrwydd i edrych ar ol holl gymunedau’r etholaeth yn amlwg iawn.

Rydw i’n adnabod Helen yn bersonol ac yn edrych ymlaen yn eiddgar iawn at weithio ysgwydd wrth ysgwydd a hi wrth i ni gydweithio i lunio Llanelli a Chymru well. Mewn undod mae nerth! YMLAEN!

Ac unwaith eto LLONGYFARCHIADAU GWRESOG I TI HELEN!

No comments:

Post a Comment