Monday 18 May 2015

I'r chwith neu i'r dde?


I'r chwith neu i'r dde?

Cwestiwn digon syml - ateb syml? Yn sgil canlyniadau trychinebus y Blaid Lafur yn yr etholiad a welwyd y Blaid honno yn colli tir, mae llawer yn pendroni ynglyn a chyfeiriad Llafur, beth nesaf - i'r chwith neu i'r dde?

Cafodd Ed Miliband ei feirniadu am fod yn rhy adain chwith. Ie, rhy adain chwith! Ar 13.1.2015 pleidleisiodd Lafur o dan ei arweinyddiaeth o
blaid £30bn o doriadau Toriaid. Ar ben hyn pleidleision nhw o blaid y Cap Budd-daliadau a fydd, yn ol Achub y Plant yn "rhoi 345,000 o blant ychwanegol mewn risg o dlodi dros y bedair blynedd nesaf."


A oes rhaid i ni son am y 'cwpan mewnfudo'? Ie, y cwpan yna! Wel dw i wedi son amdano felly dyma lun yn arbennig! Mwynhewch.

Wrth i bethau gwaethygu'n ariannol mae'n drist, ac yn wir anfaddeuol fod Llafur yn cefnogi y Cap Budd-daliadau a gwastraffu £100bn ar arfau niwclear dinistriol megis Trident. Rwyf wedi herio ASau Llafur sydd o blaid adnewyddu Trident i ddod am daith efo fi i un o'r banciau bwyd ac egluro wrth y werin pam eu bod o blaid gwario ar ladd yn hytrach na gwella bywydau pobl.

Er yr holl bolisiau yma - mae rhai yn ystryried Miliband yn rhy adain chwith. Fel person sydd yn gwrthwynebu Trident gan ei fod yn wastraff arain, yn erbyn y Cap Budd-daliadau sydd yn anfoesol a llymder gan ei fod yn 'con' - mae'n gas gen i feddwl ble ydw i ar y sbectrwm gwleidyddol yn ol Llafur!

Mae Llafur wedi cefnu ar y chwith, mae'r Blaid honno wedi gadael pleidleiswyr dosbarth gweithiol Cymru er mwyn serchu pleidleiswyr dosbarth canol Lloegr. Maen nhw'n cytuno cymaint a'r Toriaid. Rhaid gofyn y cwestiwn - beth ydy pwrpas y Blaid Lafur? S'dim gwahaniaeth - boed yn adain chwith neu dde.

No comments:

Post a Comment