Wednesday 27 May 2015

Arhoswch yn dlawd, cadwch yn dawel ac yn enw'r Tad byddwch yn ufudd!

Arhoswch yn dlawd, cadwch yn dawel ac yn enw'r Tad byddwch yn ufudd!

Wel dyna ni - dyna neges 'ysbrydoledig' y pleidiau Llundeinig... dydw i ddim yn gwrando!

Oes rhywun wedi holi pam ein bod ni mor dlawd yng Nghymru?
Pam fod lefelau tlodi mor uchel?
Pam fod 15% o'n pobl ifanc yn cael eu dwyn i fyny mewn tlodi enbyd?
Pam fod 200,000 o'n plant yn byw mewn tlodi yn gyffredinol?

http://i4.walesonline.co.uk/incoming/article1780367.ece/ALTERNATES/s615/child-poverty-111489140.jpgYng Nghymru mae 700,000 o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi allan o 3,000,000 yn unig - hynny ydy 23% o'r holl boblogaeth, ychydig llai na 25%.

Pam ydy Cymru, cenedl a oedd yn gyfoethog ac yn boddi gan 'glo du' mor dlawd? Y rheswm ydy bod y glo fel y cyfalaf a adeiladwyd ar gefnau y dosbarth gweithiol wedi llifo allan o Gymru i bocedi pobl eraill.

Pam fod rhannau o Gymru ymysg y tlotaf yn Ewrop oll?
Os rhywun wedi holi pam?
Oes hawl gyda ni hyd yn oed i holi yn y lle cyntaf?
A oes hawl gyda ni i gredu mewn Cymru well, cenedl deg a chyfartal heb ofyn caniatad Llundain yn gyntaf?

Mae lefelau tlodi ymysg plant a phobl ifanc yn uwch yng Nghymru nag unrhyw rhan arall o Brydain yn

ôl yr elusen Achub y Plant. Mae 1 ym mhob tri (pobl ifanc) mewn teulu sydd gydag incwm 60% yn is na chyfartaledd y DU, mae hyn yn cymharu

â 27% ar draws rhanbarthau eraill. Mae'r cyfoeth i gyd wedi aros yn Ne-Ddwyrain Lloegr ar draul Cymru a'i phobl.  


https://orderorder.files.wordpress.com/2013/10/byrne5.png?w=480&h=274
Chafwyd fawr o son am Gymru yn Araith y Frenhines. Araith 'Un Genedl' oedd hi - ac i fod yn deg araith felly oedd hi, yr unig genedl oedd Lloegr. Nid oes gan y Toriaid unrhyw weledigaeth dros Gymru ac yn wir mae llai fyth o weledigaeth gan y Blaid Lafur. Yn ol Llafur mae'n haws beio pobl eraill am eu methiannau hwy. Nid yw cyfrifoldeb a Llafur yn ffrindiau mawr - boed yn ffrindiau o gwbl. Hyderaf nad bai Liam Byrne oedd ysgrifennu'r nodyn enwog yno o'r Trysorlys ond roedd bai ar yr ysgrifbin oherwydd roedd inc ynddo.

http://www.mrwallpaper.com/wallpapers/Fire-breathing-Dragon-2560x1600.jpg Mae rhannu o Gymru wedi rhoi eu ffydd yn y Blaid Lafur ers 90 o flynyddoedd, ac i beth? Mae rhan o'r ardaloedd rheini ymysg y tlotaf yn Ewrop heb son am Gymru. Dydy pleidiau Llundain ddim yn poeni dim am Gymru. A dweud y gwir dadlaf fod bodolaeth Cymru yn niwsans ac yn embaras iddynt heb son am y nashis yno sy'n mynnu dyfodol gwell a theg dros Gymru. 

So no, I won't stay poor, silent or obedient. It's time for us to 'man up' in Wales, raise our voices and be heard or go out with a pathetic whimper.

Beth am ychydig o weledigaeth! Beth am weithio gyda'n gilydd er mwyn tyfu a datblygu ein heconomi. Beth am fuddsoddi yn ein pobl. Beth am sicrhau fod Cymru'n cael ei hariannu'n deg? Beth am sicrhau'r dechreuad gorau posibl i'n bobl ifanc?

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/700000-people-wales-live-poverty-6060867

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-27600900

1 comment: