Saturday, 9 August 2014

Llwyddiant yr Eisteddfod




Wel, am wythnos! Er gwaethaf holl ddarogan glaw ar ddechrau’r wythnos mae’r haul wedi tywynnu ar Lanelli ac ar ail Eisteddfod sydd wedi ei chynnal yn y dref ers 2000. A’r barn yn gyffredin – eisteddfod ardderchog wrth gwrs.

Hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd (yn llythrennol bawb) boed yn gynghorwyr sir, tref, y maer, gwirfoddolwyr ac yn y blaen, roedd gan bawb rôl i chwarae ac fe gymerodd eu dyletswyddau o ddifri.

Roedd hi’n wych i weld cymaint o bobl yn cerdded o amgylch y Maes yn gwenu o glust i glust. Mae’r Eisteddfod yn rhoi cyfle i ni ddathlu ein hunaniaeth genedlaethol a’n diwylliant. Yr hyn sy’n galonogol (fel dysgwr fy hun) oedd clywed cymaint o bobl ddi-Gymraeg ar y Maes yn ysu dysgu’r iaith. 

Os am gadw’r iaith, sef ein prif drysor fel cenedl rhaid i ni sicrhau fod pobl yn fodlon rhoi cynnig arni a pheidio ofni gwneud gwallau o bryd i’w gilydd. Wedi’r cyfan, does NEB yn berffaith.

Carfan Llanelli - yn fy ysbrydoli! Diolch i bawb!
Felly, diolch o galon unwaith yn rhagor i BAWB a sicrhaodd roedd yr Eisteddfod yn llwyddiant. Ar lefel personol roedd hi’n bleser cwrdd a chymaint o bobl ag oedd yn rhanni ein gweledigaeth dros greu Cymru newydd a Chymru well.

Diolch!

No comments:

Post a Comment