Tuesday 18 November 2014

Yn cefnogi'n LLWYR ymgyrch Stonewall Cymru gwrth-fwlio

Yn cefnogi'r ymgyrch yn Llanelli.

Yr wythnos hon rwyf yn falch iawn o gefnogi ymgyrch Stonewall Cymru gwrth-fwlio. Ewch i http://nobystanders.org.uk am ragor o wybodaeth.

Mae hon yn ymgyrch mor bwysig ac yn ymgyrch y dylen ni gyd fod yn rhan ohoni. Cefais fy synnu wrth ddysgu a darllen fod 75,000 o bobl ifanc yn mynd i gael eu bwlian eleni oherwydd eu rhywioldeb a bydd oddeutu 21,000 yn ceisio cyflawni hunanladdiad. Mae'r ffigyrau hyn yn frawychus dros ben ac mae'n rhaid i ni gyd gwneud mwy i sicrhau cydraddoldeb i'r cymunedau hoyw, lesbian, deurywiol a trawsrywiol - rhaid i ni fynnu tegwch i bawb.

Felly, rwyf yn ymbil ar gymaint o bobl a phosibl i gefnogi'r ymgyrch hanfodol hon ac yn gofyn i ni oll ddiolch i Stonewall Cymru am yr holl waith di-flino yma wrth iddynt amddiffyn ein pobl ifanc rhag niwed.

Yn ddiffuant, dymuniadau gorau wrtha i yn bersonol ac o ran Plaid Cymru yma nhref Llanelli hefyd.

"Rydym yn dod i mewn i'r byd yn gyfartal, rydym yn gadael y byd yn gyfartal."

No comments:

Post a Comment