Wel dyna ni - dyna neges 'ysbrydoledig' y pleidiau Llundeinig... dydw i ddim yn gwrando!
Oes rhywun wedi holi pam ein bod ni mor dlawd yng Nghymru?
Pam fod lefelau tlodi mor uchel?
Pam fod 15% o'n pobl ifanc yn cael eu dwyn i fyny mewn tlodi enbyd?
Pam fod 200,000 o'n plant yn byw mewn tlodi yn gyffredinol?
Yng Nghymru mae 700,000 o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi allan o 3,000,000 yn unig - hynny ydy 23% o'r holl boblogaeth, ychydig llai na 25%.
Pam ydy Cymru, cenedl a oedd yn gyfoethog ac yn boddi gan 'glo du' mor dlawd? Y rheswm ydy bod y glo fel y cyfalaf a adeiladwyd ar gefnau y dosbarth gweithiol wedi llifo allan o Gymru i bocedi pobl eraill.
Pam fod rhannau o Gymru ymysg y tlotaf yn Ewrop oll?
Os rhywun wedi holi pam?
Oes hawl gyda ni hyd yn oed i holi yn y lle cyntaf?
A oes hawl gyda ni i gredu mewn Cymru well, cenedl deg a chyfartal heb ofyn caniatad Llundain yn gyntaf?
Mae lefelau tlodi ymysg plant a phobl ifanc yn uwch yng Nghymru nag unrhyw rhan arall o Brydain yn
ôl yr elusen Achub y Plant. Mae 1 ym mhob tri (pobl ifanc) mewn teulu sydd gydag incwm 60% yn is na chyfartaledd y DU, mae hyn yn cymharu
â 27% ar draws rhanbarthau eraill. Mae'r cyfoeth i gyd wedi aros yn Ne-Ddwyrain Lloegr ar draul Cymru a'i phobl.
Chafwyd fawr o son am Gymru yn Araith y Frenhines. Araith 'Un Genedl' oedd hi - ac i fod yn deg araith felly oedd hi, yr unig genedl oedd Lloegr. Nid oes gan y Toriaid unrhyw weledigaeth dros Gymru ac yn wir mae llai fyth o weledigaeth gan y Blaid Lafur. Yn ol Llafur mae'n haws beio pobl eraill am eu methiannau hwy. Nid yw cyfrifoldeb a Llafur yn ffrindiau mawr - boed yn ffrindiau o gwbl. Hyderaf nad bai Liam Byrne oedd ysgrifennu'r nodyn enwog yno o'r Trysorlys ond roedd bai ar yr ysgrifbin oherwydd roedd inc ynddo.
Mae rhannu o Gymru wedi rhoi eu ffydd yn y Blaid Lafur ers 90 o flynyddoedd, ac i beth? Mae rhan o'r ardaloedd rheini ymysg y tlotaf yn Ewrop heb son am Gymru. Dydy pleidiau Llundain ddim yn poeni dim am Gymru. A dweud y gwir dadlaf fod bodolaeth Cymru yn niwsans ac yn embaras iddynt heb son am y nashis yno sy'n mynnu dyfodol gwell a theg dros Gymru.
So no, I won't stay poor, silent or obedient. It's time for us to 'man up' in Wales, raise our voices and be heard or go out with a pathetic whimper.
Beth am ychydig o weledigaeth! Beth am weithio gyda'n gilydd er mwyn tyfu a datblygu ein heconomi. Beth am fuddsoddi yn ein pobl. Beth am sicrhau fod Cymru'n cael ei hariannu'n deg? Beth am sicrhau'r dechreuad gorau posibl i'n bobl ifanc?
http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/700000-people-wales-live-poverty-6060867
http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-27600900
Diflas iawn.
ReplyDelete